Breaking news
Police attend incident in Belfast airport -
Belfast Half Marathon: Kipsang and Short secure wins -
Body of man, 39, found in Glasgow street -
Fin24.com | Samro's rocky place -
Omagh: Masked men tie up man and rob home -

Traean cynghorwyr Plaid Cymru'n cefnogi Leanne Wood

Traean cynghorwyr Plaid Cymru'n cefnogi Leanne Wood
Traean cynghorwyr Plaid Cymru'n cefnogi Leanne Wood

Mae dros 50 o gynghorwyr Plaid Cymru wedi ysgrifennu at eu harweinydd, Leanne Wood, i ddatgan eu cefnogaeth iddi.

Mae gan aelodau o grŵp y blaid yn y Cynulliad tan 4 Gorffennaf i gynnig eu henwau ar gyfer herio'r arweinyddiaeth.

Yn unol â rheolau'r blaid, mae'r cyfle hwnnw'n codi bob dwy flynedd.

Mae rhai o aelodau blaenllaw Plaid Cymru, fel cyn-arweinydd y blaid yn San Steffan, Elfyn Llwyd, wedi awgrymu bod angen arweinydd newydd, ac mae tri Aelod Cynulliad - Llyr Gruffydd, Sian Gwenllian ac elin Jones - wedi arwyddo llythyr yn galw am gynnal gornest.

  • Elfyn Llwyd: Amser 'newid tîm' Plaid Cymru
  • Aelodau'n galw ar ddau AC Plaid i herio Leanne Wood

Ond mewn llythyr sydd wedi ei weld gan BBC Cymru, mae dros 50 o gynghorwyr Plaid Cymru yn datgan cefnogaeth i'r arweinydd presennol.

Maen nhw'n diolch i Leanne Wood am ei gwaith "yn teithio ar hyd a lled Cymru yn hyrwyddo cenhadaeth ac egwyddorion Plaid Cymru".

Maen nhw hefyd yn dadlau mae ymgyrch etholiadau 2017 dan ei harweinyddiaeth "oedd y mwyaf llwyddiannus yn hanes Plaid Cymru."

Mae'r grŵp yn cynrychioli tua traean o gyfanswm cyngynhorwyr Plaid Cymru.

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

PREV News24.com | UPDATE: Burials begin as deaths from capsized ferry rise to 224
NEXT Wales 0-3 England: Phil Neville hails 'great night for women's football'