Yr actores Helen Griffin wedi marw

Yr actores Helen Griffin wedi marw
Yr actores Helen Griffin wedi marw
Image copyright BWH Agency

Bu farw'r actores Helen Griffin, a serenodd ar y sgrîn fach a'r sgrîn fawr, gan gynnwys y ffilm Twin Town.

Cadarnhaodd asiant Ms Griffin iddi farw nos Wener gyda'i hanwyliaid o'i chwmpas.

Yn wreiddiol o Abertawe, roedd hi'n 59 oed.

'Talentog a doniol'

Dywedodd ei hasiant: "Roedd hi'n fenyw hardd, talentog, doniol, clyfar ac ysbrydoledig a fydd yn gael ei cholli'n fawr gan bawb oedd yn ei nabod a'i charu."

Yn ogystal â Twin Town, fe ymddangosodd Ms Griffin yn rhai o benodau Doctor Who, Gavin a Stacey a Coronation Street.

Roedd hi hefyd yn actores lwyfan, ac fe bortreadodd wraig y bardd Dylan Thomas, Caitlin Macnamara, mewn sioe lwyfan un ddynes.

Ymysg ei pherfformiadau drwy'r Gymraeg roedd y ffilm Solomon a Gaenor, Iechyd Da, ac yn fwy diweddar, yn y ddrama Un Bore Mercher.

'Colli rhywun arbennig'

Dywedodd cyfarwyddwr Twin Town, Kevin Allen fod y diwydiant ffilm yng Nghymru "wedi colli rhywun arbennig iawn."

"Roedd Helen yn actores ac ysgrifenwraig wych, roedd hi'n egwyddorol iawn... Roedd hi'n actores reddfol, anhunanol a chlyfar iawn."

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

PREV Linda Rees supported by Carmarthenshire United Support Project
NEXT Mexicans welcome pre-vote quiet ahead of major election