Ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog yn unig yng Nghaerdydd?

Ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog yn unig yng Nghaerdydd?
Ysgolion Cymraeg neu ddwyieithog yn unig yng Nghaerdydd?

Mae cyn-arweinydd Cyngor Caerdydd yn dweud y dylai'r awdurdod ystyried agor ysgolion cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog yn unig yn y dyfodol.

Mae disgwyl i'r Cynghorydd Llafur, Phil Bale, wneud yr alwad mewn araith yng ngŵyl Tafwyl yng Nghastell Caerdydd ddydd Sul.

Mewn sgwrs fydd yn cael ei chynnal gan Gymdeithas yr Iaith Gymraeg, bydd Mr Bale ddweud bod modd i'r awdurdod wneud llawer mwy i gyfrannu at y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Mae Cyngor Caerdydd wedi cael cais am ymateb.

Image caption Dywedodd Phil Bale y gall Cyngor Caerdydd wneud llawer mwy i gyfrannu at y targed o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg

"Mae angen i'r ddinas fod yn ddi-ofn mewn penderfyniadau ynghylch a ddylai ysgolion a adeiledir o'r newydd yng Nghaerdydd yn y dyfodol fod yn Saesneg neu'n gyfrwng Cymraeg," meddai'r Cynghorydd Bale.

"Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn datgan y bydd dewis iaith ysgolion newydd yn seiliedig ar gynnydd tebygol yn y boblogaeth yn y dyfodol, yn ogystal â thueddiadau hanesyddol yn y galw am leoedd mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg.

"Sut bynnag, ni fydd edrych i'r gorffennol yn helpu i wireddu gweledigaeth ein dinas ar gyfer y dyfodol.

"Os bydd Caerdydd o ddifrif ynghylch lleihau nifer sylweddol y disgyblion sy'n gadael ysgolion cyfrwng Saesneg Caerdydd heb fawr ddim sgiliau yn y Gymraeg, yna mae angen ystyried yn ofalus unwaith eto'r polisi o agor ond naill ai ysgolion dwyieithog neu ysgol cyfrwng Cymraeg."

Siopau

Mae disgwyl iddo hefyd alw ar y cyngor i sicrhau fod pob siop yn cynyddu ei defnydd o'r Gymraeg: "[Mae'r] Cyngor yn bwriadu cyflwyno Canllawiau Cynllunio Ategol diwygiedig ar gyfer Arwyddion a Blaen Siopau yn hwyrach eleni, gan nodi'n llawer cliriach beth yw disgwyliadau'r ddinas o ran arwyddion siopau dwyieithog.

"Ni all fod yn iawn fod cwmnïau Almaeneg fel Lidl ac Aldi wedi cofleidio ein hiaith yn eu siopau Cymreig eu hunain tra bod llawer o gwmnïau Cymreig neu Seisnig yn dal i fod heb wneud.

"Yng ngoleuni'r ansicrwydd presennol ynghylch sut bydd y sector preifat yn cydymffurfio â'r safonau iaith, mae'n iawn i'r Cyngor achub y blaen yng Nghaerdydd, lle y gall wneud hynny, a bydd yr ymgynghoriad yn gyfle i gyflwyno'ch barn ar y newid hwn."

Mae BBC Cymru wedi gofyn i Gyngor Caerdydd am ei ymateb i sylwadau Mr Bale.

'Hwb mawr'

Cafodd ei sylwadau eu croesawu gan Mabli Jones ar ran Cymdeithas yr Iaith Gymraeg yng Nghaerdydd: "Mae hyn yn hwb mawr i'n hymgyrch i agor 10 ysgol cyfrwng Cymraeg newydd yn y pedair blynedd nesaf, ac rydyn ni'n credu y dylai ysgolion newydd fod yn rhai cyfrwng Cymraeg yn unig.

"Rydyn ni wedi cwrdd â'r cyngor sawl gwaith yn ddiweddar i drafod materion addysg a chynllunio, ac mae Phil Bale yn hollol iawn i ddweud y dylai pob siop a busnes fod ag arwyddion Cymraeg.

"Mae'n agenda cyffrous."

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

NEXT Wales 0-3 England: Phil Neville hails 'great night for women's football'