Pysgod, beiciau a betys yn rhwystro draeniau Cymru

Pysgod, beiciau a betys yn rhwystro draeniau Cymru
Pysgod, beiciau a betys yn rhwystro draeniau Cymru
Image copyright Dŵr Cymru
Image caption Y beic modur yma oedd un o'r eitemau mwyaf od i Dŵr Cymru ei ganfod mewn carthffos

Mae pysgod, tedi pum troedfedd o daldra, beic modur a 17 jar o fetys ymysg yr eitemau od sydd wedi cael eu canfod yn rhwydwaith carthffosiaeth Cymru.

Mae Dŵr Cymru'n cael eu galw tua 2,000 o weithiau bob mis i gael gwared ar eitemau fel wet wipes o draeniau.

Mae'r corff yn dweud bod y broblem mor fawr y dylai'r mater gael ei ddysgu mewn ysgolion, fel y gall plant ddylanwadu ar eu rhieni.

Dywedodd un aelod o'r tîm sy'n cael gwared ar yr eitemau o'r draeniau bod toiledau'n cael eu defnyddio "fel biniau".

Image copyright Dŵr Cymru
Image caption Cafodd y nicyrs yma eu canfod yn rhwystro draen yn Abertyleri

Yn safle trîn dŵr Caerdydd mae'r holl eitemau nad oes modd eu rhoi mewn carthffosydd yn cael eu gwahanu a'u rhoi mewn sgip - gyda'r cwmni'n tynnu saith tunnell o eitemau o'r draeniau pob wythnos.

Dywedodd gweithwyr yno eu bod wedi canfod siacedi lledr, nicers, pysgod a pheli tenis wedi'u stwffio mewn pibellau neu wedi'u fflysio i lawr y toiled.

Fe wnaeth Dŵr Cymru hefyd ganfod un draen oedd yn cael ei ddefnyddio i gadw nwyddau oedd wedi'u dwyn, gyda silffoedd wedi'u gosod i ddal yr eitemau.

Ond dywedon nhw mai'r broblem fwyaf yw cael gwared ar wet wipes ac eitemau ymolchi arall sy'n cael eu fflysio i lawr toiledau, gyda'r gwaith o'u clirio yn costio tua £7m y flwyddyn.

Dywedodd Dŵr Cymru nad unigolion sydd wastad ar fai, gyda rhai cwmnïau yn labelu eitemau fel rhai y mae modd eu fflysio er nad ydyn nhw'n bydradwy.

'Addysgu ein cwsmeriaid'

Er bod nifer y galwadau wedi gostwng dros y pedair blynedd diwethaf - o 26,771 yn 2015/16 i 22,258 yn 2017/18 - dywedodd y cwmni bod y cynnydd yn y defnydd o wet wipes yn golygu ei fod yn parhau'n broblem sylweddol.

Mae Dŵr Cymru'n rheoli dros 27,000km o garthffosydd, ac mae staff yn treulio tua 28,000 awr y flwyddyn yn cael gwared ar eitemau o rai sydd wedi'u rhwystro.

Image copyright Dŵr Cymru
Image caption Fe wnaeth Dŵr Cymru ganfod y fwyell yma tra'n dad-rwystro un garthffos

Dywedodd Emma Harris, rheolwr strategaeth lleihau llygredd Dŵr Cymru, y dylai'r mater fod yn rhan o'r cwricwlwm er mwyn atal pobl rhag dechrau arferion drwg.

"Os ydych chi'n edrych ar y llwyddiant rydyn ni wedi'i gael yma gydag ailgylchu, mae llawer o hynny wedi dod o ddysgu ein plant i wneud y peth iawn, ac mae'n bwysig am fod plant yn cymryd y neges yna adref," meddai.

"Rydyn ni angen addysgu ein cwsmeriaid - efallai nad ydyn nhw'n gwneud y cysylltiad rhwng yr hyn ry'n ni'n fflysio i lawr y toiled a'r effaith mae hynny'n ei gael ar yr amgylchedd."

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

NEXT Wales 0-3 England: Phil Neville hails 'great night for women's football'