Breaking news

Damwain angheuol ar y B4350 ger Y Gelli Gandryll

Damwain angheuol ar y B4350 ger Y Gelli Gandryll
Damwain angheuol ar y B4350 ger Y Gelli Gandryll
Image copyright Google

Mae Heddlu Dyfed-Powys yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad angheuol ar y B4350 ddydd Llun.

Digwyddodd y ddamwain rhwng tri cherbyd am tua 15:40 rhwng Y Gelli Gandryll ac Aberllynfi.

Bu farw un dyn ar y safle, ac mae'r teulu bellach yn ymwybodol o'r digwyddiad.

Cafodd un teithiwr ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau "difrifol", ond mae bellach mewn cyflwr "sefydlog".

Roedd y ffordd ar gau am sawl awr tra bod yr heddlu yn ymchwilio.

Mae'r heddlu yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad i gysylltu â nhw drwy alw 101.

Get the latest news delivered to your inbox

Follow us on social media networks

PREV Aretha Franklin's family found eulogy 'distasteful'
NEXT Wales 0-3 England: Phil Neville hails 'great night for women's football'